Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

7 Tachwedd 2022

SL(6)271 Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Gweithdrefn: Gwneud Negyddol

Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (“Rheoliadau 2022”) yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).

Mae Rheoliadau 2022 yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan adran 17 ac adran 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014 sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ar gyfer y gofyniad i bersonau cofrestredig fod wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol, ac mewn cysylltiad â’r gofyniad hwnnw.

Bydd Rheoliadau 2022 yn diwygio Rheoliadau 2015 i wneud y newidiadau a ganlyn i’r trefniadau sefydlu statudol ar gyfer athrawon newydd gymhwyso (“ANG”) yng Nghymru:

·         Bydd ANG yn gallu cyflawni cyfnod sefydlu mewn uned cyfeirio disgyblion.

·         Bydd yn ofynnol i ANG gwblhau eu cyfnod sefydlu yn foddhaol o fewn pum mlynedd i ddyddiad dyfarnu ei statws athro cymwysedig neu ddyddiad y daw Rheoliadau 2022 i rym, oni bai bod y corff priodol (“AB”) yn ymestyn yr amser terfyn hwn. Mae’n rhaid i’r Corff Priodol ymestyn y terfyn amser hwn ar gyfer ANG o dan amgylchiadau pan fydd cyfnod sefydlu’r ANG yn cael ei ymestyn (drwy benderfyniad gan y Corff Priodol neu Gyngor y Gweithlu Addysg) ac nad oes digon o amser ar gael i’r Corff Priodol wneud penderfyniad ar ôl cwblhau’r cyfnod sefydlu estynedig hwnnw gan yr ANG. Caiff y Corff Priodol ymestyn y terfyn amser os yw’n fodlon bod rhesymau da dros wneud hynny a bod yr ANG yn cydsynio.

·         Caiff y corff priodol, gyda chydsyniad y person o dan sylw, leihau hyd y cyfnod sefydlu y mae’n ofynnol i’r person ymgymryd ag ef i isafswm o un tymor ysgol neu 110 o sesiynau ysgol os yw’r corff priodol wedi ei fodloni bod y person wedi cyrraedd y safonau proffesiynol y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn cwblhau’r cyfnod sefydlu yn foddhaol.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Addysg (Cymru) 2014

Fe’u gwnaed ar: 12 Hydref 2022

Fe’u gosodwyd ar: 17 Hydref 2022

Yn dod i rym ar: 07 Tachwedd 2022